Mae
Brainwaves yn brosiect ymchwil a datblygu economi gylchol, trawsffiniol, 3.5
mlynedd. Ei nod yw sicrhau’r rheolaeth orau ar wastraff amaethyddol gan hefyd
sicrhau buddion economaidd. Mae’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar un planhigyn
sy’n fach ond sy’n tyfu’n gyflym – llinad y dŵr (Lemna minor), sef planhigyn
sy’n frodorol i Iwerddon a Chymru.
Mae
ein gwyddonwyr planhigion yn datblygu ac yn optimeiddio systemau wedi eu seilio
ar linad y dŵr ar gyfer adfer gwastraff fferm. Wrth i linad y dŵr dyfu ar ffrydiau
gwastraff, mae’n ymlifio (h.y. yn tynnu) maetholion fel nitradau a ffosffadau
o’r gwastraff. Mae hyn yn gweddnewid y sefyllfa i ffermwyr sy’n ceisio rheoli
gwastraff, ac i’r bobl sy’n llunio polisïau i geisio sicrhau bod statws
ecolegol ein hafonydd, ein llynnoedd a’n dyfroedd arfordirol yn dda. Ar ben
hynny, gall biomas llinad y dŵr a gawn o ganlyniad i’r system hon ddarparu
porthiant uchel mewn protein i’w ddefnyddio yn lle soi wedi’i fewnforio –
sefyllfa i’n ffermwyr lle mae pawb ar eu hennill.
Ein nod ni, ynghyd â ffermwyr, busnesau
bach a chanolig a rhanddeiliaid eraill, yw datblygu modelau dan do ac awyr
agored sy’n gweithio, ac esbonio’n ymarferol sut mae modd cynnwys y systemau
llinad y dŵr yng ngwaith y ffermydd. Mae’r ymchwil hwn yn berthnasol o ran ei
amseriad a’i gysylltiad â phynciau mawr ein byd ac mae’n enghraifft wych o
ddull cynaliadwy, dolen gaeedig o amaethu. |