Croeso i’n Newyddlen ddiweddaraf! |
|
|
|
Funded by the European Regional Development Fund through the Ireland Wales Cooperation Programme |
|
|
|
Gan ein Cyd-Brif Ymchwilydd Dr Dylan Gwynn Jones
|
|
|
|
“Water, water everywhere but not a drop to drink”
Wrth i’r hydref dynnu
at ei ddiwedd, mae’r coed yn colli eu dail ac mae’r lliwiau hydrefol ysblennydd,
a ddilynodd yr haf sych iawn, yn dechrau pylu. Mae ein llinad y dŵr yn y fan
yma yn dal i dyfu’n gryf ond bydd hyn yn anorfod yn arafu wrth inni fynd i mewn
i’r ysgwydd hon o’r tymor tyfu, oherwydd y tymheredd is a’r lleihad yn y golau.
Rydym yn archwilio ffyrdd o estyn y tymor tyfu a darbwyllo ein llinad y dŵr i
barhau i dyfu i mewn i’r gaeaf. Eto, yr hyn y mae rhaid inni yn anorfod gyfyngu
arno yw unrhyw ynni a fewnosodir oherwydd yr argyfwng parhaus.
|
|
|
|
Mae’r adeg hon yn ein
bywydau’n tynnu sylw at mor bwysig yw cofleidio dulliau carbon isel i dyfu
planhigion y byddwn yn eu defnyddio er mwyn bwyd neu swbstradau hanfodol. Mae’r
tymor tyfu yn yr awyr agored ar ben ac mae tyfwyr garddwriaethol yn dibynnu ar
dwnelau polythen i estyn eu tymor. Ar ôl hynny, fe drônt at dai gwydr wedi’u
goleuo a’u gwresogi i dyfu cynnyrch a dyma ddechrau eu her. I’r prynwr yn y
gaeaf mae cydbwysedd rhwng naill ai prynu bwyd lleol a gynhyrchir gan
ddefnyddio tanwyddau ffosil neu fwyd wedi’i fewnforio sydd hefyd yn gofyn
defnyddio tanwyddau ffosil i’w gludo. Byddwn hefyd yn bwytau cnydau bwyd wedi’u
mewnforio a dyfwyd drwy danwyddau ffosil.
|
|
|
|
|
|
|
Mae’r sefyllfa hon yn
f’atgoffa i o’r Ancient Mariner “Water, water and not a drop to drink!” gan
Coleridge. Yma yng ngorllewin Cymru, mae ffynonellau ynni ym mhob man ond rydym
yn syml yn methu â defnyddio digon ohonynt. Y gwynt yn y bryniau acw, y llanw
a’r nentydd canghennog pefriol acw sydd bellach yn dod yn fyw wrth i’r hydref
gyrraedd. Mae’r un peth yn wir yn Iwerddon, rydym wir wedi’n bendithio ond eto
ers gormod o amser rydym yn anwybyddu’r dyfodol ac yn dal gafael mewn
gorffennol o danwyddau ffosil.
|
|
|
|
|
|
Mewn argyfwng, mae
rhaid inni gofleidio cyfleoedd a chefnogi ffyrdd newydd i alluogi cynhyrchiant
bwyd lleol, adnewyddol, carbon isel. Wrth ddisgwyl am y chwyldro gwyrdd mawr ei
angen yma, rhaid inni i gyd efallai ystyried bwyta mwy o gynnyrch tymhorol ac
wrth gwrs rhaid inni beidio â gwastraffu dim yn y gegin, yn union fel ein
neiniau a’n teidiau! Bydd traul ar ynni yn y cartref hefyd yn her ac yn destun
pryder sylweddol inni i gyd y gaeaf yma. Yng nghanol y düwch a’r prudd-der yma
i gyd, rhaid inni geisio gweld o leiaf rhai pethau cadarnhaol i’n cadw i fynd. Drwy
leihau’r traul ar ynni a gwastraff bwyd heddiw, rydym yn gwneud ein rhan i
ddiogelu gwell amgylchedd i genedlaethau’r dyfodol. Hefyd, rydym i gyd bellach
yn cael ein gorfodi i feddwl yn wyrddach a dysgu ffyrdd newydd carbon isel o
fyw. Mae’n amlwg na fydd hyn yn ffenomen fyd-eang ac efallai mai anwybodaeth
fydd drechaf mewn mannau eraill. Serch hynny, mae eisiau inni fod yn gwbl
optimistaidd a gweld y cyfnod hwn fel cyfle. Hefyd, pwyso ar ein llywodraethau
i fuddsoddi mewn ynni adnewyddol a geir yn lleol. Mae Iwerddon a Chymru wir
wedi’u bendithio yn hyn o beth a rhaid inni gredu bod ein taith ni i ddyfodol
gwyrddach eisoes wedi cychwyn.
|
|
|
|
Uchod ac Isod: Cynhyrchu fideo gyda thîm RTE yn mynd ymlaen yn y Cooperage Building yn UCC
Roeddem wrth ein bodd o weld y prosiect yn cael sylw’n ddiweddar yn y gyfres newydd o’r sioe deledu wyddonol boblogaidd, 10 Things to Know About. A hwythau’n cael eu darlledu ar RTE 1 ar nos Lun gan ddechrau ym mis Tachwedd 2022, mae’r rhaglenni diweddaraf yn dod â rhai o’r datblygiadau rhyfeddol mewn ymchwil wyddonol sy’n digwydd ar draws Iwerddon i sylw cynulleidfa genedlaethol.
Bu’r cyflwynydd Kathriona Devereux a’i thîm yn siarad â’r Athro Marcel Jansen am ddatblygu systemau adfer dŵr gwastraff gan ddefnyddio planhigion llinad y dŵr, ffyrdd y gellir defnyddio bio-màs y planhigyn, a sut mae’r ymchwil hon yn bwydo i mewn i’r symudiad ehangach tuag at wreiddio prosesau economi gylchog i mewn i systemau cynhyrchiant yn Iwerddon.
Mae Brainwaves yn ymddangos yn Episod 4 - 'Circular Economy', a ddarlledir ar RTE 1 ddydd Llun 5ed o Ragfyr, 8.30pm. Gellir cael hyd iddo hefyd yn y fan hon ar yr RTE Player.
|
|
|
|
Profion â gwastraff o ffermydd godro |
|
|
|
Uchod ac isod Chwith a De: Casglu’r samplau o olchion buarth ar ffermydd godro o gwmpas Cork
|
|
|
|
Cafwyd datblygiad cyffrous yr haf yma i mewn i gam newydd yn y prosiect, wrth inni ddechrau profi ein systemau adfer llinad y dŵr â gwastraff a gasglwyd o ffermydd godro gweithiol o gwmpas rhanbarth Cork.
|
|
|
|
Bu’r tîm yn UCC o dan arweiniad y Prif Ymchwilydd, Yr Athro Marcel Jansen, yn profi fersiwn o’r system sylfaenol flaenorol ar raddfa fwy, i asesu twf llinad y dŵr a hefyd y gallu i lanhau dŵr gwastraff, y tro hwn gan ddefnyddio cyfryngau gwastraff a gafwyd o nifer o wahanol ffermydd. Defnyddiwyd cyfanswm o 15 tanc, a phob un yn cynnwys 500 litr o gyfryngau dŵr gwastraff arbrofol. Yn yr arbrawf hwn, y dyfroedd gwastraff a ddewiswyd i’w profi oedd ‘golchion buarth’. Bydd golchion buarth yn cael eu cynhyrchu gan ffermwyr llaeth ar ôl golchi a glanhau’r parlwr godro a’r mannau cadw gerllaw ar ôl i wartheg gael eu godro.
|
|
|
|
|
|
Ar lawer i ystyr, gellir ystyried golchion buarth fel slyri tenau iawn, â lefelau uchel o faethynnau a ddylai, yn ddamcaniaethol, fod yn gallu cynnal twf planhigion llinad y dŵr. Yma, gwnaed y gwaith mewn lleoliad awyr agored yn ystod misoedd yr haf, i fanteisio ar y cyfnod gorau i linad y dŵr dyfu o dan amodau naturiol o ran tymheredd a golau.
|
|
|
|
Mae canlyniadau cychwynnol o’r dadansoddiad cemegol a wnaed yn dangos bod cyfansoddiad amrywiol golchion buarth o ffermwydd gwahanol wedi arwain at wahaniaethau gweladwy yng nghyfraddau twf llinad y dŵr ar y dŵr gwastraff. Mae’r canfyddiadau hyn yn gam pwysig yng nghynnydd y systemau hyn o labordy rheoledig i leoliad fferm yn y byd go iawn, lle mae amodau’n debygol o fod yn fwy amrywiol ac yn anos eu rhagweld.
|
|
|
|
Mae’r gwaith hwn wedi bod yn destun sylw gan yr Ymchwilydd Ôl-ddoethurol Dr Neil Coughlan, â chymorth gan y Cynorthwywyr Ymchwil Rachel O’Mahoney a Cian Redmond. Yn wir, mae Cian bellach wedi symud o’i swyddogaeth fel Cynorthwywr gyda Brainwaves i ddechrau ei ymchwil PhD ei hun yn UCC ar brosiect newydd DuckFeed. Â chyllid gan yr Adran Amaeth, Bwyd a’r Môr, bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad pellach meithrin llinad y dŵr ar raddfa fawr yn yr awyr agored yn Iwerddon, â ffocws mwy y tro hwn ar fwyafu’r agwedd ar y system sy’n ymwneud â chynhyrchu protein. Bydd ei waith yn adeiladu ymhellach ar yr arbenigedd a ddatblygwyd ar systemau Brainwaves yn ystod y chwe mis diwethaf, ac y mae’n enghraifft odidog o natur y broses ymchwil wyddonol fel un sydd wedi’i ffurfio o ‘flociau adeiladu’.
|
|
|
|
|
|
Yn sail o hyd
i’n gwaith yn yr awyr agored, bu asesiadau yn y labordy dan arweiniad Rachel,
a’r rheini wedi canolbwyntio yn ystod y chwe mis diwethaf ar wneud mân
newidiadau cemegol i ffrydiau gwastraff, gan gynnwys golchion buarth o barlyrau
godro ac elifion moch wedi’u hidlo. Nod y gweithgareddau hyn yw nodi a mwyafu
rhagor o gyfleoedd i gael gwelliannau mewn twf gan linad y dŵr, glanhau dŵr, a
pherfformiad y systemau at ei gilydd.
Isod: tanciau cynhwysydd llwyth
canolig 500 litr a ddefnyddir i dyfu llinad y dŵr ar olchion buarth o ffermydd
godro |
|
|
|
Yng Nghymru, mae gwaith wedi parhau yn ystod y chwe mis diwethaf ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddatblygu systemau i dyfu llinad y dŵr yn yr awyr agored. Yn y gwanwyn, tyfwyd llinad y dŵr ar slyri gwartheg wedi’i dreulio’n anerobig yn ein twnnel polythen (chwith). Bydd y systemau 70 litr hyn yn caniatáu arbrofion lluosog wedi’u dyblygu, a ddefnyddir i roi canlyniadau mwy dibynadwy. Yn y pen draw, cafodd y tîm ymchwil fod llinad y dŵr wedi tyfu’n dda, gan ddefnyddio’r maethynnau yn y cyfrwng yn gyflym. |
|
|
|
|
|
Wrth i’r dyddiau
gynhesu yn ystod yr haf ac i mewn i’r hydref, newidiodd y gwaith i dyfu llinad
y dŵr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl. Sefydlwyd arbrawf ar ein safle profi yng
Ngerddi Botaneg y Brifysgol, lle tyfwyd llinad y dŵr ar slyri gwartheg mewn
cynwysyddion llwyth canolig mwy, a hynny’n adeiladu ar waith blaenorol a wnaed
yn y labordy ar raddfa fwy perthnasol i ddiwydiant. Drwy fesuriadau wythnosol
caniatawyd i ymchwilwyr asesu sut roedd gwahanol ffactorau’n dylanwadu ar dwf
llinad y dŵr a’i allu i lanhau’r dŵr gwastraff.
|
|
|
|
|
|
Isod yn glocwedd o’r chwith: Haen drwchus o dyfiant llinad y dŵr. Cynaeafu llinad y dŵr. Pwyso’r cynnyrch bio-màs |
|
|
|
Yn y cyfamser yn
Iwerddon, gwnaed cynnydd mewn gwaith ar systemau dan do drwy adeiladu ar
ganfyddiadau ymchwil a gyflwynwyd yn y Newyddlen ddiwethaf. Yn ystod y chwe mis
diwethaf, rydym wedi parhau i brofi capasiti ein tair system ailgylchredeg dan
do 500 litr. Yn yr achos hwn, gwnaethom benderfynu ymchwilio ymhellach i rai
bylchau yn yr wybodaeth drwy weithgareddau profi datblygedig, gan
ganolbwyntio’n enwedig ar drefnau goleuo â deuodau allyrru golau. Mae
canfyddiadau’n dangos bod optimeiddio trefnau goleuo â deuodau allyrru golau yn
hybu twf planhigion ac yn lleihau costau ynni yn y system. Gwnaethom asesiadau
hefyd o dechnoleg gynaeafu robotaidd, sy’n cynnwys datblygu a mireinio braich
gynaeafu wedi’i mecaneiddio i godi bio-màs llinad y dŵr.
Fel rhan o
ddatblygiad y systemau dan do, mae’r Athro Jansen a Dr Coughlan, ynghyd â’r
Cynorthwywyr Ymchwil yn UCC Rachel O’Mahoney a Roger Ahern, wedi cyhoeddi
ymchwil newydd yn ddiweddar yn ymwneud â gweithrediad systemau dan do amlhaenog
i dyfu llinad y dŵr. Yn enwedig, edrychodd yr ymchwil hon ar effaith gyfansawdd
cyfraddau llif a dyfnder y dŵr ar dwf llinad y dŵr mewn system dan do. Cyhoeddwyd
yr ymchwil yn y cyfnodolyn academaidd Plants a gellwch ei
darllen yn y fan hon:
Coughlan, N.E., Walsh, É.,
Ahern, R., Burnell, G., O’Mahoney, R., Kuehnhold, H., Jansen, M.A.K. (2022).
Flow Rate and Water Depth Alters Biomass Production and Phytoremediation
Capacity of Lemna minor. Plants 11,
2170. https://doi.org/10.3390/plants11162170
Hefyd, rydym ar
hyn o bryd yn paratoi canlyniadau profion sylfaenol eraill ar baramedrau ein
bioadweithyddion llinad y dŵr, megis gwasgariad maethynnau yn y cyfrwng tyfu
hylifol wrth iddo gylchredeg drwy’r system. Mae cynlluniau i gyhoeddi’r
canlyniadau hyn hefyd, mewn cyfnodolyn priodol a adolygir gan gymheiriaid. Bydd
y data yma hefyd yn dylanwadu ar sut yr adeiledir ac y rheolir systemau llinad
y dŵr dan do. Bydd ein canlyniadau’n parhau i yrru ymlaen yn sylweddol
ddatblygiad ac optimeiddiad systemau mawr diwydiannol (amlhaenog, wedi’u
stacio) dan do, yn ogystal â systemau awyr agored (mewn pyllau, morlynnoedd,
camlesi) ar gyfer adfer a lliniaru dyfroedd gwastraff llawn maethynnau drwy
linad y dŵr.
|
|
|
|
Llywodraeth Cymru’n ymweld â UCC |
|
|
|
Uchod: Pedrongl
hanesyddol UCC wedi’i goleuo yn lliwiau Cymru ar gyfer yr ymweliad
Ac yntau wedi’i
sefydlu yn 2021, digwyddiad dwyochrog yw Fforwm Iwerddon-Cymru a gynhelir bob
blwyddyn rhwng llywodraethau Iwerddon a Chymru i hyrwyddo rhannu gwybodaeth a
chydweithio ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Fel rhan o’r Fforwm hwn, cymerodd Brainwaves
ran mewn digwyddiad arddangos prosiect ymchwil a drefnwyd yn UCC ym mis Hydref, gyda
Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r Gweinidog dros Faterion Gwledig Lesley
Griffiths yn bresennol.
Roeddem wrth ein
bodd o gael y cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad diddorol â golwg ar bolisi ac
yn arbennig o ddiolchgar i’r Gweinidog Griffiths am ei hamser a’i diddordeb yn
y prosiect, ac am ei mewnwelediadau ar y potensial i hybu cymwysiadau ymchwil
ar linad y dŵr. Diolch!
Mae rhagor o wybodaeth am Fforwm
Iwerddon-Cymru i’w chael yn y fan hon.
Isod: Gweinidog
Materion Gwledig Cymru Lesley Griffiths yn trafod ymchwil ar linad y dŵr gyda’r
Athro Marcel Jansen. Isod, gwaelod: Y Rheolwr Prosiect Anna Power wrth
stondin Brainwaves
|
|
|
|
Gall syniadau syml arwain at ymchwil ysbrydoledig |
|
|
|
‘Mae ein hymchwil ni’n mynd i’r afael â rhai o’r heriadau sydd o’r brys mwyaf mewn ffermio a rheoli adnoddau heddiw’
– Yr Athro Marcel Jansen
Mewn erthygl ddiweddar i’r cylchgrawn gwyddoniaeth a thechnoleg yn Iwerddon, Silicon Republic, eglura’r Athro Marcel Jansen sut y cafodd ei ysbrydoli’n gyntaf i ymchwilio i botensial llinad y dŵr wrth lanhau ei bwll. Mae’n esbonio fel y mae prosiect Brainwaves yn ymdroi o gwmpas ymagweddiad at amaethyddiaeth sy’n seiliedig ar economi gylchog. Mae hynny’n golygu bod maethynnau planhigion sydd eisoes yn bresennol yn cael eu cadw mewn systemau cynhyrchiant gyhyd ag y bo modd, a hwythau’n cael eu hailddefnyddio yn hytrach na’u gwaredu.
|
|
|
|
Carnifal Gwyddoniaeth Cork 2022: Yn ôl yn Llwyddiant Ysgubol! |
|
|
|
Uchod: Gwahanol luniau o stondin Brainwaves ar Exploration Avenue. De Uchaf: Aelodau staff Brainwaves Rachel, Neil a Niamh. Gwaelod yn y Canol: Yr Athro Marcel Jansen yn siarad ag An Taoiseach Micheál Martin, a ymwelodd â’n stondin ni.
Ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd oherwydd Covid, daeth Carnifal Gwyddoniaeth Cork yn ôl yn llwyddiant ysgubol yr haf yma. Roedd ein tîm prosiect wrth eu bodd o arddangos Brainwaves yn y sbloet wyddonol hon, a gynhaliwyd ym Mharc Fitzgerald yn Cork ar 11eg a’r 12fed o Fehefin.
Ymwelodd cyfanswm anhygoel o 25,000 o bobl â’r wledd hon o ryfeddodau STEM yn ystod y penwythnos, yn ôl amcangyfrifon y trefnwyr. Yn wir, fe gawsom ein syfrdanu gan niferoedd y bobl a drawodd heibio ar ein stondin i siarad â ni a dysgu am botensial llinad y dŵr i’n hamgylchedd. Yn fonws, roeddem wrth ein bodd o weld An Taoiseach Micheál Martin ac Arglwydd Faer Dinas Cork Colm Kelleher yn cymryd yr amser i ymweld â’n stondin i drafod potensial llinad y dŵr i amaethyddiaeth yn Iwerddon. |
|
|
|
Sioe Frenhinol 2022: Crasu yn y gwres! |
|
|
|
Uchod: Tîm Brainwaves Dylan,
Lesley, Gruff ac Abby ym Mhrifysgol Aberystwyth yn mwynhau heulwen yr haf
yn Sioe Frenhinol 2022
Daeth y Sioe
Frenhinol yn ôl yn y grwes chwilboeth eleni a hithau’n digwydd
yn ystod y dyddiau twymaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru! Roedd ein tîm
prosiect wrth eu bodd o arddangos Brainwaves ar y 18fed a’r 19eg o Orffennaf â
stondin y tu allan i Bafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth - yn y cysgod,
diolch byth!
Gwnaethom
fwynhau dau ddiwrnod o sgyrsiau diddorol dros ben am wyrthiau llinad y dŵr, ein
gwaith ni ar yr economi gylchog, y cysyniad o systemau adfer wedi’u seilio ar
linad y dŵr a rhagor. |
|
|
|
Noson Labordy Agored yn Noson Ddiwylliant 2022 |
|
|
|
Unwaith eto, roeddem yn falch o gymryd rhan yn nigwyddiad gwych Noson Ddiwylliant, a ninnau’r tro hwn yn cynnal stondin ryngweithiol yn y noson agored ar thema Archwilio Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth a gynhaliwyd yn Ysgol Gwyddorau Biolegol, Daear ac Amgylcheddol UCC ar gyfer Noson Ddiwylliant 2022. Ysbrydoliaeth oedd gweld yr ymgysylltu a’r diddordeb yn y prosiect gan bawb a drawodd heibio a sgwrsio â’n gwyddonwyr ymchwil. Mawr ddiolch i’r trefnwyr am agor drws i fyd diddorol tu hwnt y gwyddorau biolegol i bobl o bob oed!
|
|
|
|
Pwyllgor Llywio Rhyngwladol ar Ymchwil Llinad y Dŵr |
|
|
|
Rhoddwyd
hwb yn ddiweddar i UCC ac ymchwil yn Iwerddon, â’r newyddion bod yr Athro
Marcel Jansen wedi cael ei ethol i dymor 2 flynedd ar y Pwyllgor Llywio
Rhyngwladol ar Ymchwil a Defnydd Llinad y Dŵr (ISCDRA). Mae hyn yn gosod
Iwerddon yn gadarn ar flaen y gad mewn ymchwil ryngwladol ar linad y dŵr, ochr
yn ochr â chynrychiolaeth gan wyddonwyr blaenllaw o’r Almaen, India, Israel, ac
UDA.
|
|
|
|
|
|
Ers ei sefydlu yn 2013, y Pwyllgor yw’r ysgogwr arweiniol i hwyluso a hyrwyddo’r datblygiadau newydd cyffrous sy’n digwydd yng nghymuned ryngwladol yr ymchwil ar linad y dŵr. Bydd y Pwyllgor yn trefnu cynhadledd ryngwladol fwyaf blaenllaw’r byd ar ymchwil i linad y dŵr, ICDRA, bob dwy flynedd. Bydd hefyd yn cynhyrchu cylchlythyr chwemisol, y mae pob rhifyn ohono i’w gael ar-lein yn y fan hon. Llongyfarchiadau Marcel!
|
|
|
|
Tîm Brainwaves Cymru’n ymweld ag Iwerddon |
|
|
|
Roedd rhai o dîm
Brainwaves o Brifysgol Aberystwyth yng Nghymru’n falch o ymweld â chyfleusterau
ymchwil y prosiect yn Cork yn Iwerddon yn ystod yr haf - yr ymweliad
cyntaf o’r fath sydd wedi bod yn bosib ers cyn pandemig Covid-19.
|
|
|
|
Uchod, Ch-Dd: Aelodau
tîm Rachel O' Mahoney a Cian Redmond (UCC) a Lesley Langstaff a Gruff
Jones (PA).
Cafodd yr
Ymchwilyd Ôl-ddoethurol Gruff Jones a’r Rheolwr Prosiect Lleol Lesley Langstaff
ychydig o ddyddiau prysur â chyfarfodydd rheoli, ymweliadau â labordai i weld
llinad y dŵr yn tyfu dan do ac yn yr awyr agored - ac roedd ganddynt amser
hyd yn oed i ddringo adeilad eiconig Cork, Clychau
a Thŵr Shandon.
|
|
|
|
Dewch i gwrdd â’n Hymchwilydd Ôl-ddoethurol newydd! |
|
|
|
I hwyluso’r
gwaith ymchwil a datblygu yn UCC, mae Ymchwilydd Ôl-ddoethurol newydd, Dr
Merve Sasmaz Kislioglu o Dwrci, wedi ymuno â’n tîm yn Cork yn ddiweddar. A
hithau’n cynorthwyo’r prosiect mewn amryfal ffyrdd, bydd Dr Sasmaz Kislioglu yn
canolbwyntio’n gyntaf ar ddatblygiad pellach trefnau goleuo â deuodau allyrru
golau yn y system wedi’i stacio dan do, â’r nod o optimeiddio twf a chapasiti
adfer llinad y dŵr â’r galw isaf am ynni goleuo. Bydd hi hefyd yn
cyfrannu at ysgrifennu adroddiadau a gweithgarwch cyhoeddi.
Croeso i dîm Brainwaves, Merve!
|
|
|
|
|
|
Dilynwch ein hynt ni ar Drydar @BrainwavesEU. Mae negeseuon uniongyrchol bob amser ar agor os hoffech gysylltu. |
|
|
|
|
|
|
Fe gewch yr holl wybodaeth ac adnoddau’n ymwneud â Brainwaves yn y fan hon. |
|
|
|
|
|
|
|
|
Ddim eisiau colli’r diweddaraf gan Brainwaves? Tanysgrifiwch i dderbyn ein Cylchlythyr. |
|
|
|
|
|