Gan ein Cyd-Brif Ymchwilydd Dr. Dylan Gwynn Jones
Rydym i gyd yn gwybod fel yr ydym yn orddibynnol ar danwyddau ffosil i’n bywydau, ond eto mae eu llosgi nhw’n dod â chanlyniadau andwyol i’n hinsawdd ni yn y dyfodol. Bydd llawer yn meddwl yn syth am effeithiau trafnidiaeth a gwresogi – ond nid am y bwyd y byddwn yn ei fwyta. Efallai bod rhai nad ydynt yn gwybod bod y gwrteithiau anorganig y byddwn yn eu defnyddio i dyfu cnydau a phorthiannau’n treulio ~3% o danwyddau ffosil byd-eang ar ffurf nwy naturiol. Byddwn yn tynnu nitrogen o’r atmosffer ac yn ei droi’n wrtaith anorganig drwy brosesau sy’n gwneud defnydd dwys dros ben o ynni. Efallai y byddai rhai’n dadlau na fyddai ein hanner ni yma oni bai am broses Haber-Bosch sy’n gwneud defnydd o nitrogen o’r atmosffer. Eto, rydym yn mynd yn gaeth i gynhyrchu nitrogen anorganig, ac mae tanwyddau ffosil rhad wedi ychwanegu at y broblem hon.
Mae’r pandemig wedi ysgwyd y goeden tanwydd ffosil. Mae diffyg cyfatebiaeth rhwng cyflenwad a galw o ran tanwydd ffosil – yn ogystal â chwarae gemau masnachol a rhyngwladol ac ansefydlogrwydd mewn cyfraddau cyfnewid – wedi arwain at anwadalwch mewn prisiau a hyd yn oed tyndrâu geowleidyddol ar sail y cyflenwad o danwyddau ffosil. Mae costau tanwyddau ffosil, sydd erbyn hyn yn prysur gynyddu, yn cael eu pasio ymlaen i ffermwyr wrth iddynt brynu gwrtaith anorganig, ac wedyn i fanwerthwyr ac yn y pen draw i’r prynwr – mae chwyddiant bwyd yn rhywbeth y mae rhaid inni i gyd ei dderbyn, ac mae’r broblem hon yn un fyd-eang!
Canolbwyntio y mae Brainwaves ar wneud defnydd o ffynonellau organig o nitrogen, a allai, er nad ydynt yn imiwn, roi gofod i ffermwyr yn erbyn anwadalwch ym mhrisiau tanwyddau ffosil ac a allai gynnig y ffordd ymlaen yn y dyfodol. Os cwyd pris tanwyddau ffosil, yna fe wna costau gwrtaith ac ymborth anifeiliaid yr un fath. Rydym â’n bryd ar ddau nod mawr - 1) cynhyrchu ymborth llawn protein yn gynaliadwy a 2) glanhau gwastraff nitrogenaidd o’r amgylchedd. I gyrraedd y nodau hyn, byddwn yn manteisio ar wastraff fferm sy’n uchel mewn nitrogen a ffosfforws! Rydym am ynysu’r diwydiant ffermio rhag dibyniaeth ar danwyddau ffosil a gweithio gyda nhw i helpu i ddal a storio carbon a lleihau llygredd yn yr amgylchedd
Efallai bod Brainwaves yn wyrdd ond y mae hefyd yn aeddfed iawn ar gyfer heddiw a’n hyfory cyffredin.
Oes gennych chi ddiddordeb yn y gwaith cyffrous hwn? Ewch i’n gwefan, dilynwch ni ar Twitter, neu cysylltwch â’r Rheolwr Prosiect, Anna Power ar anna.power@ucc.ie |